GeraintJONESJONES - Dymuna teulu y diweddar Mr. Geraint Jones (Geraint Glo) ddiolch o galon i'w cymdogion a ffrindiau yng Nghymru a Patagonia am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth ddiweddar. Diolch am y llu cardiau, galwadau ffon a phob ymweliad. Diolch i Dr. J. P. Owen, Amlwch a'r meddygon a staff yn Ysbyty Gwynedd am eu gofal. Estynnir diolch hefyd i'r Parchedig Ddoctor G. D. Loveluck am ei wasanaeth ddiwrnod yr angladd, i Gareth am ganu ac i Mrs. Megan Hughes yr organyddes. Gwerthfawrogir y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof am Geraint tuag at Tim Peldroed Amlwch. Diolch hefyd i'r ymgymerwyr R. Hughes a'i Fab, Llangefni am eu trefniadau.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Geraint